....Jaejun Lee..Jaejun Lee....
....16 September – 21 November 2020..16 Medi – 21 Tachwedd 2020....
....Retail Gallery Exhibition..Arddangosfa Oriel Werthu....
....
Jaejun Lee is a Korean ceramicist based in Cardiff. He moved to Wales from South Korea in 2018 and he is currently working in the UK with an ‘Exceptional Talent’ visa. He specialises in porcelain and makes both artistic vessels and functional wares. The simple form of his vessels makes people concentrate on outer shape and smooth surface. Jaejun studied at Seoul National University where he completed his BFA and MFA in Ceramics. Since graduating, Jaejun has exhibited extensively across Korea as well as exhibiting in the USA and Europe, gaining international acclaim for his work.
Jaejun relishes everyday objects and believes that each object we interact with should be a thing of beauty and detailed design. In a world of mass production he asks his audience to consider the makers motives for producing objects, to appreciate the care taken to create them and the value of handmade objects. He aims to communicate a message of functionality and beauty through his work. Jaejun hopes that through continued use the objects will enrich and enhance the user’s everyday life.
..
Seramegydd o Gorea yw Jaejun Lee. Fe symudodd i Gaerdydd yn 2018 ac yn awr mae’n gweithio yn y DU â fisa ‘Dawn Eithriadol’. Ei arbenigedd yw porslen a bydd yn gwneud llestri artistig a llestri swyddogaethol. Bydd ffurf syml ei lestri’n gwneud i bobl ganolbwyntio ar siâp allanol ac arwyneb llyfn. Fe astudiodd Jaejun ym Mhrifysgol Seoul lle y cwblhaodd ei BFA a’i MFA mewn Serameg. Ers hynny mae wedi arddangos yn eang ledled Corea yn ogystal ag yn UDA ac Ewrop, gan ennill cymeradwyaeth ryngwladol am ei waith.
Bydd Jaejun yn mwynhau gwrthrychau pob dydd ac yn credu y dylai pob eitem y byddwn yn rhyngweithio ag o fod yn hardd ac o ddyluniad manwl. Mewn byd o fasgynhyrchu bydd yn gofyn i’w gynulleidfa ystyried cymhelliad y gwneuthurwyr i gynhyrchu gwrthrychau, i werthfawrogi’r gofal a gymerir i’w creu a gwerth gwrthrychau sydd wedi’u gwneud â llaw. Ei nod yw cyfleu neges o ymarferoldeb a harddwch drwy ei waith. Mae Jaejun yn gobeithio, drwy ddefnydd parhaus, y bydd y gwrthrychau’n cyfoethogi ac yn gwella bywyd dyddiol y defnyddiwr.
....