50319708687_7ef6bd4f0c_o.jpg

Susie Freeman: WOWI+

....Susie Freeman: WOWI+.. Susie Freeman: WOWI+....

....18 January – July 2020..18 Ionawr – Gorffennaf 2020....

....Gallery 1..Oriel 1....

....

A Retrospective of work by Susie Freeman including Pharmacopoeia with Dr Liz Lee

Susie established herself as a textile artist of great originality early in her career. As a postgraduate student at the Royal College of Art, following Manchester School of Art where she had studied weaving, she invented a knitted network of pockets using a monofilament thread: into each small transparent pocket she dropped a tiny object before safely sealing them with a further row of knitting, and repeating this to construct the cloth. At the same time Susie explored different ways of using and showing these works by fashioning cowls, scarves and jackets. These wearable garments were very distinctive, selling at Chelsea Craft Fair and in galleries – and attracting an admiring, loyal following.

As her children grew up her strong ethical concerns for society found a voice through her friendship with Dr Liz Lee. Together they started to question our increasing dependence on medicines and Susie began to imagine how their ideas could be visualised through her work. Taking the name ‘Pharmacopoeia’ their collaboration used innovative artistic imagery to question social concerns around health. …..with the scale of the work escaping the confines of the tiny pockets. Huge suits of armour and flowing garments, constructed from metallic pill packets, describe the issues that the work addresses; issues which become more vital each day.

Curated by Mary La Trobe-Bateman in association with the Royal College of General Practitioners

..

Adolwg ar waith gan Susie Freeman Yn cynnwys Pharmacopoeia â’r Dr Liz Lee

Fe sefydlodd Susie ei hun fel artist tecstilau o wreiddioldeb mawr yn gynnar yn ei gyrfa. A hithau’n fyfyriwr ôl-raddedig yn y Coleg Celf Brenhinol, yn dilyn Ysgol Gelf Manceinion lle bu’n astudio gwehyddu, fe ddyfeisiodd rwydwaith wedi’i wau o bocedi gan ddefnyddio edau monoffilament: byddai’n gollwng gwrthrych bychan bach i mewn i bob poced fechan dryloyw cyn eu selio’n ddiogel â rhes bellach o wau, ac ailadrodd hynny i lunio’r brethyn. Yr un pryd byddai Susie’n archwilio gwahanol ffyrdd o ddefnyddio a dangos y gweithiau hyn drwy lunio cyflau, sgarffiau a siacedi. Roedd y dillad gwisgadwy hyn yn neilltuol iawn, yn gwerthu yn Ffair Grefftau Chelsea ac mewn orielau – ac yn denu dilynwyr edmygus, ffyddlon.

Wrth i’w phlant dyfu daeth ei phryderon moesegol cadarn o ran y gymdeithas o hyd i lais drwy ei chyfeillgarwch â’r Dr Liz Lee. Gyda’i gilydd fe ddechreuon nhw gwestiynu ein dibyniaeth gynyddol ar feddyginiaethau a dechreuodd Susie ddychmygu sut y gellid delweddu eu syniadau drwy ei gwaith. Gan gymryd yr enw ‘Pharmacopoeia’ roedd eu cydweithrediad yn defnyddio delweddaeth artistig arloesol i gwestiynu pryderon cymdeithasol ynglŷn ag iechyd. …..gyda graddfa’r gwaith yn osgoi cyfyngiadau’r pocedi bychan bach. Mae arwisgoedd enfawr a dillad llac, wedi’u gwneud o bacedi pils metelig, yn disgrifio’r materion y bydd y gwaith yn mynd i’r afael â nhw: materion a fydd yn dod yn fwy hanfodol bob dydd.

Curadur: Mary La Trobe-Bateman mewn cysylltiad â Choleg Brenhinol Meddygon Teulu

....