Mwynhau Blodau – Taith Arddangosfa a Sgwrs gyda Sioned Edwards
Ystafell Addysg
Sadwrn 19 Medi
11am – 12pm
£4
Grŵp oedran: 14+
Ymunwch â’r blodeuwraig enwog Sioned Edwards wrth iddi archwilio arddangosfeydd Cyfoes Canolfan Grefftau Rhuthun trwy fyd blodau.
Sioned Edwards (Pont y Tŵr) yn blodeuwraig enwog ac enillydd gwobrau yn y DU, gyda steil unigryw — yn naturiol greadigol, eclectig a chwareus. Wedi’i hysbrydoli gan Ddyffryn Clwyd, mae rhedyn, brigau, mwsogl a gwair wedi’u casglu yn aml yn ymddangos yn y rhan fwyaf o’i chreadigaethau.
Dewch i ddarganfod sut mae gwaith yr artistiaid yn cysylltu â lliw, ffurf, natur ac emosiwn, wrth i Sioned greu ei chynlluniau blodau ei hun mewn ymateb i waith a chasgliad pob artist.
Taith ysbrydoledig drwy gelf, blodau a’r byd naturiol.
Bydd y digwyddiad hwn yn Saesneg. Mae taith Gymraeg hefyd am 11am, a gellir archebu tocynnau drwy Eventbrite.
....Photography © Sioned Edwards..Ffotograffiaeth © Sioned Edwards....