….
Hannah Gibson – Retail Showcase
Retail Gallery
..
Hannah Gibson – Arddangosfa Manwerthu
Oriel Werthu
….
….
26 September 2026 – 10 January 2027
Hannah Gibson is a glass artist and geologist based in North Wales. Her practice brings art and science together through an enduring fascination with glass as a material that carries evidence of where it has been and what it once was.
At the heart of her practice is Recycling Narratives, an ongoing body of cast sculpture created from recycled glass and found objects. Rather than treating recycled glass as a single material, Hannah investigates each source individually, researching its provenance, composition and behaviour. These differences are not something to disguise but become intrinsic to the character and narrative of each work.
Her background in geology shapes the way she approaches glass, through its chemistry, transformation and relationship with time. This scientific understanding underpins her exploration of the possibilities and complexities of working with recycled material.
Through Recycling Narratives, Hannah gives physical form to the stories already present within glass, connecting material, memory, people and place.
Image right: A Shattered Past. Cast from 100% recycled car windscreens (‘Pilkington’ still visible on the front of the piece)
Works available to purchase.
..
26 Medi 2026 – 10 Ionawr 2027
Artist gwydr a daearegwr sydd wedi ymsefydlu yng ngogledd Cymru yw Hannah Gibson. Mae ei hymarfer yn dod â chelf a gwyddoniaeth ynghyd drwy ei diddordeb parhaus mewn gwydr fel deunydd sy'n dwyn tystiolaeth o le mae wedi bod a’r hyn y bu unwaith.
Mae Recycling Narratives wrth galon ei hymarfer, corff parhaus o gerflunwaith sydd wedi’i gastio ac a grëwyd o wydr wedi’i ailgylchu ynghyd â gwrthrychau wedi’u canfod. Yn hytrach na thrin gwydr wedi’i ailgylchu fel un deunydd, mae Hannah yn archwilio pob ffynhonnell yn unigol, gan ymchwilio i’w darddiad, ei gyfansoddiad a’i ymddygiad. Nid yw’r gwahaniaethau hyn yn rhywbeth i’w cuddio ond maen nhw’n dyfod yn gynhenid i gymeriad a naratif pob darn o waith.
Mae ei chefndir mewn daeareg yn llunio’r ffordd y mae hi’n ymagweddu at wydr, drwy ei gemeg, ei drawsffurfiad a’i berthynas gydag amser. Mae’r ddealltwriaeth wyddonol hon yn gosod sail i’w harchwiliad o’r posibiliadau a’r cymhlethdodau o weithio gyda deunydd wedi’i ailgylchu.
Drwy Recycling Narratives mae Hannah yn rhoi ffurf gorfforol i’r straeon hynny sy’n bresennol eisoes o fewn y gwydr, yn cysylltu deunydd, cof, pobl a lleoliad.
Delwedd ar y dde: A Shattered Past. Cast o 100% o sgriniau gwynt ceir wedi’u hailgylchu (mae ‘Pilkington i’w weld o hyd ar flaen y darn)
Mae’r gweithiau ar gael i’w prynu.
….
Hannah Gibson, A Shattered Past