….
Printmakers in Focus:
Dela Anderson & Jasmine Violet
Studio 2
..
Printwyr dan y Chwyddwydr:
Dela Anderson & Jasmine Violet
Stiwdio 2
….
….
26 September 2026 – 10 January 2027
Dela Anderson and Jasmine Violet are both interested in questions of belonging, representation and the ways in which identity is perceived within Welsh culture. They are both founding members of the Multiplicity Collective, a group of artists of colour living and working in Wales.They first exhibited together in Multiplicity at Aberystwyth Arts Centre in 2025. For both, printmaking is an important way to explore their ideas. Jasmine’s monoprints use fragmented, linear forms to break apart and reconfigure the figure, while her cyanotypes combine photographic imagery, fragmentation, geometry and physical trace. Dela’s practice examines nostalgia and memories of times, objects and places at risk of being forgotten. She works with monoprint and linoprint and also makes works on silk as a way of evoking the delicate and slippery nature of memories.
Dela is a multidisciplinary artist and producer from Cardiff working across printmaking, painting, zines, writing and photography. She has worked on projects within gallery and local authority settings, including a residency with ArcadeCampfa and Barry Library and on participatory projects within social care services in London. She studied in Cardiff and also has a background in human geography which she studied at King’s College, London.
Jasmine’s interdisciplinary work spans printmaking, photography, painting ,and performance to explore identity, perception, memory, and the subconscious. She is particularly interested in the relationship between the body, self-image, and cultural identity. Since graduating from art school in 2020, she has exhibited nationally and worked across collaborative and community-led projects, including Perspective(s) at Amgueddfa Cymru. She is currently undertaking a PhD at Aberystwyth University, researching the histories and contemporary experiences of artists of colour within Wales.
Curated by Ann Jones
..
26 Medi 2026 – 10 Ionawr 2027
Mae gan Dela Anderson a Jasmine Violet ill dwy ddiddordeb mewn cwestiynau yn ymwneud â pherthyn, cynrychiolaeth a’r ffyrdd caiff hunaniaeth ei chanfod yn niwylliant Cymru. Mae’r ddwy yn aelodau sefydlol o Gydweithfa Lluosogrwydd, grŵp o artistiaid o liw sy’n byw ac yn gweithio yng Nghymru, Bu iddynt arddangos ar y cyd gyntaf yn Lluosogrwydd yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth yn 2025. I’r ddwy, mae creu printiau yn ddull pwysig o archwilio’u syniadau.
Mae monobrintiau Jasmine yn defnyddio ffurfiau llinol, darniog, i ddatgymalu’r ffigur a’i ail-lunio, tra bod ei cyanodeipiau’n cyfuno delweddaeth ffotograffig, golau, hap ac ôl corfforol. Mae ymarfer Dela’n archwilio hiraeth am y gorffennol ac atgofion amseroedd, gwrthrychau a lleoliadau sydd mewn perygl o fynd yn angof. Gan weithio gyda monobrint a phrint leino ac ar sidan hefyd, mae’n cyfleu pa mor fregus ac anwadal gall atgofion fod.
Mae Dela yn artist amlddisgyblaethol a chynhyrchydd o Gaerdydd, y mae ei hymarfer yn pontio meysydd print, peintio, cylchgronau zine, ysgrifennu a ffotograffiaeth. Mae hi wedi gweithio ar brosiectau mewn orielau ac mewn lleoliadau awdurdodau lleol, gan gynnwys cyfnod preswyl gydag ArcadeCampfa a Llyfrgell y Barri, ac ar brosiectau cyfranogol gwasanaethau gofal cymdeithasol yn Llundain. Astudiodd yng Nghaerdydd ac mae ganddi hefyd gefndir mewn daearyddiaeth ddynol, maes bu hi’n astudio yng Ngholeg y Brenin, Llundain.
Mae Jasmine mewn meysydd sy’n pontio printio, ffotograffiaeth, paentio a pherfformans er mwyn archwilio hunaniaeth, canfyddiad, cof a’r isymwybod. Mae ganddi ddiddordeb arbennig yn y berthynas rhwng y corff, hunanddelwedd a hunaniaeth ddiwylliannol. Ers graddio o ysgol gelf yn 2020, mae wedi arddangos yn genedlaethol ac wedi gweithio ar brosiectau cydweithredol a phrosiectau dan arweiniad cymunedau, gan gynnwys Safbwynt(iau) yn Amgueddfa Cymru. Ar hyn o bryd, mae’n gweithio ar PhD ym Mhrifysgol Aberystwyth, gan ymchwilio i hanesion a phrofiadau cyfoes artistiaid o liw yng Nghymru.
Curadwyd gan Ann Jones
….
....
Associated Events
..
Digwyddiadau Cysylltiedig
....
….Jasmine Sheckleford © the artist..Jasmine Sheckleford © yr artist….
….Dela Anderson © the artist..Dela Anderson © yr artist….
