….
Effie Burns – Earthly Treasures
Gallery 3
..
Effie Burns – Trysorau Daearol
Oriel 3
….
….
13 January 2024 – 17 March 2024
Effie Burns is an artist who works in cast glass from her home-based studio in the beautiful, North Yorkshire coastal town of Whitby.
This 4 Nations project led by Ruthin Craft Centre and National Glass Centre Sunderland is the second stage in an exploration of the relationship between glass and body adornment. The first stage created opportunities for jewellers to explore the potential of glass and resulted in an exhibition titled Wearable Glass shown at NGC and RCC in 2015/16. This exhibition has enabled an artist specialising in glass to explore the potential of jewellery. It has allowed Effie Burns to develop this new body of work and will no doubt influence the long term development of her practice, celebrating the potential of glass, our ability to relate to its jewel like qualities and the joy of the small scale object.
In undertaking this project to develop a new body of wearable glass artworks Effie spent time working in Caithness in Scotland, Sunderland in England and Ruthin in Wales. In Scotland Effie became inspired by the standing stones in Caithness. Positioned around 4000 years ago it is thought that the stones brought together the three realms of land sea and sky.
..
13 Ionawr 2024 – 17 Mawrth 2024
Mae Effie Burns yn artist sy’n gweithio gyda gwydr bwrw o’i stiwdio yn ei chartref yn nhref glan môr hardd Whitby yng ngogledd Swydd Efrog.
Roedd y prosiect 4 Gwlad hwn dan arweiniad Canolfan Grefft Rhuthun a’r National Glass Centre yn Sunderland yn ail gam mewn archwilio perthynas gwydr ac addurno’r corff. Creodd y cam cyntaf gyfleoedd i wneuthurwyr gemwaith i ystyried potensial gwydr a’r canlyniad oedd arddangosfa’n dwyn y teitl Wearable Glass a ddangoswyd yn y National Glass Centre a Chanolfan Grefft Rhuthun yn 2015/16. Mae’r arddangosfa hon wedi galluogi artist sy’n arbenigo mewn gwydr i archwilio potensial gemwaith. Mae wedi caniatáu i Effie Burns ddatblygu’r corff newydd hwn o waith a fydd, heb amheuaeth, yn dylanwadu ar ddatblygiad hirdymor ei hymarfer, a dathlu potensial gwydr a’n gallu i ymdeimlo nodweddion tebyg i dlysau gemau a llawenydd gwrthrychau bychan.
Wrth ymgymryd â’r prosiect hwn treuliodd Effie gyfnod yn gweithio yn Caithness yn yr Alban, Sunderland yn Lloegr a Rhuthun yng Nghymru a hynny er mwyn datblygu corff newydd o gelfyddyd wydr i’w gwisgo. Cafodd Effie ei hysbrydoli yn yr Alban gan y meini hirion yn Caithness. A hwythau wedi’u gosod oddeutu 4000 o flynyddoedd yn ôl, credir y daeth y cerrig â thair teyrnas y tir, y môr a’r nen ynghyd.
….