....Wendy Ramshaw: Rooms of Dreams..Wendy Ramshaw: Rooms of Dreams....
....7 July – 9 September 2012..7 Gorffennaf – 9 Medi 2012....
....Gallery 1 & 3..Oriel 1 & 3....
....
As one of Britain’s leading contemporary designers, Wendy Ramshaw CBE RDI is renowned for her jewellery and distinctive, large scale public art. This major exhibition exhibits key pieces spanning the past fifty years of her acclaimed career from her early fashionable and ephemeral jewellery in paper and plastic, through impressive, geometric jewels in precious metals, stone, glass and ceramic, to a series of images and maquettes representing her outstanding output of public art commissions including the latest Hyde Park Gates.
The centrepiece of the exhibition is ‘Room of Dreams’, a magical environment which is now recognised as an important milestone in the development of contemporary applied art. This part of the exhibition aims to lift the viewer from seeing jewellery purely as precious objects and transforming them into vehicles for storytelling and imagination.
A Harley Gallery Touring Exhibition in partnership with Ruthin Craft Centre with funding from Arts Council England.
..
Fel un o ddylunwyr cyfoes enwocaf Prydain, mae Wendy Ramshaw CBE RDI yn enwog am ei gemwaith a’i chelfyddyd gyhoeddus arbennig ar raddfa fawr. Mae’r arddangosfa bwysig hon yn arddangos darnau allweddol sy’n pontio’r hanner can mlynedd diwethaf o’i gyrfa lwyddiannus – bydd ei gemwaith ffasiynol byrhoedlog o bapur a phlastig o’r blynyddoedd cynnar yno. Yna ei gemau trawiadol geometrig mewn metelau gwerthfawr, cerrig, gwydr a serameg. Yna ymlaen i gyfres o ddelweddau a brasluniau fydd yn cynrychioli ei chynnyrch eithriadol o gelf gyhoeddus, yn cynnwys Gatiau Hyde Park.
Rhan ganolig yr arddangosfa fydd ‘Stafell y Breuddwydion’, amgylchedd hudol sydd, erbyn hyn yn cael ei chyfrif yn garreg filltir bwysig yn natblygiad celfyddyd gymhwysol, gyfoes. Amcan y rhan hon o’r arddangosfa ydi perswadio’r gwyliwr i weld gemwaith, nid yn unig fel darnau gwerthfawr hardd, ond eu gweld fel cyfrwng i adrodd stori a defnyddio’r dychymyg.
Arddangosfa deithiol Oriel Harley mewn partneriaeth â Chanolfan Grefft Rhuthun, gydag arian Cyngor Celfyddydau Lloegr.
....