Publications..Cyhoeddiadau

....

We stock a wide range of publications in our Retail gallery including many titles published exclusively on RCC exhibitions. A small selection can be purchased below.

..

Rydym yn cadw ystod eang o gyhoeddiadau yn ein horiel werthu. Mae’r rhain yn cynnwys llawer o deitlau yn ymwneud yn benodol ag arddangosfeydd CGRh. Gellir prynu detholiad bychan o'r rhai a rhestrir isod.

....

....Jeanette Orrell: Drawings on Indigo..Jeanette Orrell: Lluniadau ar Indigo....

....Jeanette Orrell: Drawings on Indigo..Jeanette Orrell: Lluniadau ar Indigo....

£5.00

....

Indigo is woven through our consciousness in the colour of hills, sea and sky. It is an intimately familiar colour that somehow remains equally strange. From unsuspectingly green leaves, a blue pigment is drawn and imbued universally with the deepest of spiritual and societal worth.

Combining a daily drawing practice with the ancient art of indigo dyeing, Jeanette Orrell’s work reflects the power of art to process life’s events. Drawings on Indigo brings together a body of work developed in the period following the loss of her father, contemplating experiences of mourning, recovery and regrowth. The work speaks to universal experience through a personal journey, sensitively and eloquently conveying the slow patterns of regrowth that follow grief. Abstracted botanical forms resist-dyed onto wool and hand-stitched collages made from naturally dyed linens show an artistic practice that employs a range of creative vocabularies whilst remaining rooted in drawing.

20 pages, softback
Full colour, 210x210mm
ISBN 978-1-911664-24-6
Language: English or Welsh
Publication date: July 2023

..

Mae indigo wedi’i weu drwy ein hymwybyddiaeth yn lliw’r bryniau, y môr a’r awyr. Er ei fod yn lliw llwyr gyfarwydd mae rhywsut yn aros yr un mor ddieithr. Caiff y lliw glas ei dynnu yn ddiarwybod o ddail gwyrdd ac yna ei hydreiddio’n eang gyda’r arwyddocâd ysbrydol a chymdeithasol dyfnaf.

Drwy gyfuno ymarfer lluniadu’n ddyddiol gyda chelfyddyd hynafol llifo indigo mae gwaith Jeanette Orrell yn adlewyrchu grym celfyddyd i brosesu digwyddiadau bywyd. Mae Lluniadau ar Indigo yn cyfuno corff o waith a ddatblygwyd ar ôl colli ei thad a myfyrio ar brofiadau galar, adfeddiannu ac aildyfu. Wrth gyfleu’n sensitif a huawdl y patrymau araf o aildyfu sy’n dilyn galar drwy siwrnai bersonol mae’r gwaith yn ymwneud â phrofiad byd-eang. Mae ffurfiau botanegol haniaethol wedi’u gwrthlifo ar wlân a gweithiau collage wedi’u pwytho â llaw a grëwyd o linau wedi’u llifo’n naturiol yn dangos ymarfer artistig sy’n defnyddio ystod o eirfaoedd creadigol sy’n aros wedi’u gwreiddio mewn lluniadu.

20 tudalen, clawr meddal
Lliw llawn, 210x210mm
ISBN 978-1-911664-24-6
Iaith: Saesneg neu Gymraeg
Dyddiad cyhoeddi: Gorffennaf 2023

....

Language:
Quantity:
add to basket..ychwanegu at y fasged