….
Nichola Stace – Ceramic Portal
Studio 6
..
Nichola Stace – Porthol Serameg
Stiwdio 6
….
….
16 January – 18 April 2027
Nic Stace is a ceramic artist from North Wales. Her ceramic sculptures explore the complex and often contradictory layers of human identity. Hand built using a range of clay bodies, from highly grogged stoneware to slip cast porcelain, each figure stands with a grounded, unapologetic stance. With interchangeable heads and no fixed front or back, they resist a single perspective, reflecting the adaptability and constant flux of the self.
Her approach to surface and mark making is intuitive and expressive, layering slips, oxides, and experimental glazes to create depth, character, and texture. Humour, nostalgia, and a growing confidence in aging underpin her exploration of human psychology and the metaphor of the masks we wear explored in the different heads of her figures. Nic’s practice celebrates imperfection, resilience, and the ongoing process of becoming.
..
16 Ionawr – 18 Ebrill 2027
Artist cerameg o Ogledd Cymru yw Nic Stace. Mae ei cherfluniau cerameg yn archwilio haenau cymhleth hunaniaeth ddynol, sy’n aml yn gwrth-ddweud ei gilydd. Wedi’i adeiladu â llaw gan ddefnyddio amrywiaeth o gyrff clai, o glai crochenwaith caled â chyfran uchel o grog i borslen wedi’i chastio â slip, mae pob ffigur yn sefyll yn gadarn, heb ymddiheuro. Gyda phennau y gellir eu cyfnewid a heb flaen na chefn penodol, maent yn gwrthod un safbwynt yn unig, gan adlewyrchu gallu’r hunan i addasu a’i newid di-baid.
Mae ei dull o drin arwynebau a gwneud marciau yn reddfol ac yn fynegiannol, gan haenu slipiau, ocsidau a gwydreddau arbrofol i greu dyfnder, cymeriad a gwead. Mae hiwmor, hiraeth a hyder cynyddol wrth heneiddio yn sail i’w harchwiliad o seicoleg ddynol a throsiad y masgiau a wisgwn, a archwilir drwy bennau gwahanol ei ffigurau. Mae ymarfer Nic yn dathlu amherffeithrwydd, gwytnwch a’r broses barhaus o ddod yn ni ein hunain.
….
....Photography © the artist..Ffotograffiaeth © yr arlunydd....