....Julie Arkell Away..Julie Arkell Ymaith....
....27 September – 30 November 2014..27 Medi – 30 Tachwedd 2014....
....Gallery 3..Oriel 3....
....
The tale of Julie Arkell’s exhibition – the Away that follows Home of 10 years ago – is one of order, regime and classification. It won’t look that way, of course. It will look as magical and spry as ever her work does. But behind it all was a self-imposed making process that kept her going through mourning the death of her mother (which happened at the end of 2011) and manifested the cycles of grief Arkell experienced, in real and tangible form.
For the main body of this exhibition Arkell made 100 ‘creatures’, one a week. They were finished, just, in July 2014 ready for the exhibition. From the first creature, a small timid thing, to the last creature – more robust and opinionated, striding off – they make a fabulous narrative set. Arkell knew she would make 100 from the start. She has a thing for numbers and the number 100 seemed just right.
..
Mae hanes arddangosfa Julie Arkell – Ymaith sy’n dilyn Gartref gynhaliwyd ddeng mlynedd yn ôl – yn un o drefn, cyfundrefn a dosbarthiad. Nid felly bydd yn ymddangos, wrth gwrs. Bydd ei gwaith yn edrych mor hudol a bywiog ag erioed. Ond y tu ôl i’r cyfan roedd proses o wneud hunanosodedig fu’n fodd i’w chynnal trwy gyfnod galaru marwolaeth ei mham (ddigwyddodd yn niwedd 2011) ac amlygwyd yn y profiadau brofodd Arkell yn ei galar, rhai real a diriaethol.
Ar gyfer crynswth yr arddangosfa hon gwnaeth Arkell 100 o ‘greaduriaid’, un yr wythnos. Gorffenwyd hwy i’r dim, yng Ngorffennaf 2014. O’r creadur cyntaf, peth bach swil, i’r creadur olaf – un fwy cadarn ac ystyfnig yn camu i ffwrdd – maent yn gwneud casgliad naratif gwych. Roedd Arkell yn gwybod y byddai hi’n gwneud 100 o’r cychwyn. Mae ganddi rywbeth am rifau ac roedd 100 yn ymddangos yn berffaith.
....