....Delight in the Everyday..Pleser mewn Pethau Cyffredin....
....27 September – January 2015..27 Medi – Ionawr 2015....
....Studio 3..Stiwdio 3....
....
The Design Commission for Wales is pleased to collaborate with Ruthin Craft Centre on an exhibition which recognises quality in the everyday in Wales – the homes, public places, schools, work places, parks, shops and community buildings which we enjoy, and which form the background to everyday life. ‘Delight in the Everyday’ celebrates the simple pleasures found in the unassuming buildings and places which eschew louder ambition and are entirely appropriate and delightful in their simplicity.
The Commission has selected several designers working in the built environment in Wales to contribute exhibits which explore the theme of Delight in the Everyday. From the simple planting of wildflowers to brighten up a dull roadside, to a study of the search for thermal comfort in a courtyard house, the designers consider some of the infinite variety of ways in which good design contributes to our enjoyment of day to day life.
..
Arddangosfa, Stiwdio 3 27 Medi – 28 Tachwedd 2014 Mae’n bleser gan Gomisiwn Dylunio Cymru weithio gyda Chanolfan Grefft Rhuthun ar arddangosfa sy’n cydnabod ansawdd mewn pethau cyffredin yng Nghymru – y cartrefi, mannau cyhoeddus, ysgolion, gweithleoedd, parciau, siopau ac adeiladau cymunedol rydym yn eu mwynhau, ac sy’n ffurfio’r cefndir i fywyd cyffredin. Mae ‘Pleser mewn Pethau Cyffredin’ yn dathlu’r pleserau syml a geir yn yr adeiladau a’r lleoedd diymhongar sy’n gochel uchelgais uwch ac sy’n gwbl briodol ac yn hyfryd yn eu symlrwydd.
Mae’r Comisiwn wedi dewis nifer o ddylunwyr sy’n gweithio yn yr amgylchedd adeiledig yng Nghymru i gyfrannu arddangosion sy’n archwilio’r thema Pleser mewn Pethau Cyffredin. O bethau syml fel plannu blodau gwyllt i fywiogi ochr ffordd ddiflas, i astudiaeth o’r broses o chwilio am gysur thermol mewn cwrt ty, mae’r dylunwyr yn ystyried rhai o’r amrywiaeth diddiwedd o’r ffyrdd y mae dylunio da yn cyfrannu at ein mwynhad o fywyd bob dydd.
....