Photoshoot March 2016-061.jpg

Juliette Hamilton: Hares and Pigs Willow Weaving Workshop..Gweithdy Gwehyddu Helyg Sgwarnogod a Moch

….

Juliette Hamilton
Hares and Pigs Willow Weaving Workshop

Education Space

..

Juliette Hamilton: Gweithdy Gwehyddu Helyg Sgwarnogod a Moch

Gofod Addysg

….

….

Hares: Friday 21 October 10.30am – 4pm
Pigs: Saturday 22 October 10am – 4pm

£75 per Workshop
(To book please call 01824 704774 or email ruthincraftcentre@denbighshireleisure.co.uk or book on Eventbrite here)

Capacity: 12 per workshop

Refreshments included. Lunch will not be provided on the day, please bring a packed lunch with you.

Make a willow sitting hare or a cute pig or piglet for your garden or home. These are fairly large sculptures and the course can be quite full on, but rewarding.

You will be guided by Juliette through the day with additional help of written instructions and step by step demonstrations. The course is suitable for beginners or improvers. The technique used is mainly random weave and will enable you to take your willow sculpture journey further if you wish to do so, or just enjoy a rewarding day making something unique.

During the day we will talk about where to source the willow and how to prepare it and keep it in a useable condition, also how to treat your sculptures to make them last as long as possible.

All materials will be provided, but you might like to bring a pair of secateurs and an apron to protect your clothes.

..

Sgwarnogod: Dydd Gwener 21 Hydref 10.30am – 4.30pm 
Mochyn: Dydd Sadwrn 22 Hydref 10am – 4pm
 

£75 y gweithdy
(i archebu’ch lle ffoniwch  01824 704774 neu ebostiwch ruthincraftcentre@denbighshireleisure.co.uk neu archebwch ar Eventbrite yma

Yn cynnwys lluniaeth ond ni ddarperir cinio ar y diwrnod, dewch â phecyn bwyd os gwelwch yn dda. 

Crëwch sgwarnog helyg ar ei eistedd neu fochyn neu borchell del ar gyfer eich gardd neu’ch cartref. Mae’r rhain yn gerfluniau eithaf mawr a’r cwrs yn gallu bod yn ddigon dwys ond mae’n siŵr o roi boddhad.

Bydd Juliette yn eich tywys drwy’r diwrnod gyda chymorth ychwanegol cyfarwyddiadau ysgrifenedig ac arddangosiadau fesul cam. Mae’r cwrs yn addas ar gyfer dechreuwyr a rheiny sydd yn awyddus i wella’u crefft. Defnyddir techneg gwead ar hap yn bennaf. Bydd hyn, os ydych chi’n dymuno gwneud hynny, yn eich galluogi i fynd â’ch cerflun helyg gam ymhellach neu mwynhewch ddiwrnod hwyliog yn creu rhywbeth unigryw.

Yn ystod y diwrnod byddwn yn trafod ble i ddod o hyd i’r pren helyg, ei baratoi a’i gadw mewn cyflwr i’w ddefnyddio a hefyd sut i drin eich cerfluniau er mwyn iddyn nhw barhau cyn hired â phosibl.

Darperir yr holl ddeunyddiau ond efallai yr hoffech chi ddod â siswrn tocio a ffedog i ddiogelu’ch dillad.

….