4M2A1410.jpg

About..Ynghylch

 ....

About The Centre

..

Am y Ganolfan

….

….

Ruthin Craft Centre is revenue funded by Arts Council of Wales and is part of Denbighshire Leisure Ltd, a Denbighshire County Council owned company.

..

Caiff Canolfan Grefft Rhuthun ei hariannu â refeniw gan Gyngor Celfyddydau Cymru ac mae’n rhan o Hamdden Sir Ddinbych Cyf, cwmni sy’n eiddo i Gyngor Sir Ddinbych.

….


….

Architecture

July 25th 2008 saw the re-opening of Ruthin Craft Centre, The Centre for the Applied Arts. The event marked the culmination of a four-year project to create a contemporary applied arts venue with exhibition, studio and educational facilities that could more than hold its own against similar institutions across Europe. Since it was founded in the early 1980s, Ruthin Craft Centre has established an impressive reputation as perhaps Britain’s foremost venue for the display and creation of contemporary craft. In 2005 it was decided to replace its old premises with a purpose built building. An alluring design by architects Sergison Bates won the commission and the £4.4 million project, was made possible by a major capital lottery grant from the Arts Council of Wales.

Inside are three galleries – two for displaying the best contemporary craft from Wales and around the world, the other a collections gallery and a retail gallery space. There are also studios for artists, educational and residency facilities, a café and a tourist information cultural gateway. The whole complex is set round a courtyard that acts as a focal point and outdoor social space. Outdoor furniture, for this area, has been designed by renowned designers Jim Partridge and Liz Walmsley.

The project had to blend into its beautiful surroundings and convey a sense of the spirit of Denbighshire. The building is built of cast stone whose reddish-pink tones shift across the building. The roof is of zinc and captures shapes and colours from the surrounding hills of the Vale of Clwyd.

..

Pensaernïaeth

Ail-agorwyd Canolfan Grefft Rhuthun, y Ganolfan i’r Celfyddydau Cymhwysol, ar Orffennaf 25, 2008. Nododd y digwyddiad hwn benllanw prosiect pedair blynedd i greu lleoliad i’r celfyddydau cymhwysol cyfoes, gyda chyfleusterau arddangos, stiwdio ac addysgol allai fwy na dal eu tir yn erbyn sefydliadau tebyg ar draws Ewrop. Ers ei sefydlu yn y 1980au cynnar, enillodd Canolfan Grefft Rhuthun enw da fel y lleoliad mwyaf blaenllaw trwy Brydain efallai ar gyfer arddangos a chreu crefft cyfoes. Yn 2005 penderfynwyd disodli’r hen adeilad gydag adeilad newydd i bwrpas. Enillwyd y comisiwn gan gynllun atyniadol penseiri Sergison Bates, a gyda nawdd loteri cyfalaf mawr gan Gyngor Celfyddydau Cymru, gwnaed y cynllun £4.4 miliwn yn bosibl.

Y tu mewn mae tair oriel – dwy ar gyfer arddangos y crefft cyfoes gorau o Gymru a ledled y byd a’r llall ar gyfer casgliadau oriel gyda oriel werthu yn ychwanegol. Mae yna hefyd stiwdios ar gyfer artistiaid, cyfleusterau addysgol a phreswyl, caffi a phorth diwylliannol gwybodaeth twristiaeth. Mae’r holl ganolfan wedi ei gosod o amgylch cwrt sy’n gweithredu fel canolbwynt a gofod awyr agored cymdeithasol. Gwnaed y dodrefn awyr agored ar gyfer yr ardal hon gan y dylunwyr o fri, Jim Partridge a Liz Walmsley.

Roedd yn rhaid i’r prosiect gydweddu â’i amgylchedd brydferth a chyfleu ymdeimlad o ysbryd Sir Ddinbych. Adeiladwyd y waliau o garreg cast gyda’i arliwiau coch-bincaidd yn symudol ar draws yr adeilad. Mae’r to o sinc ac yn adlewyrchu lliwiau a siapiau’r bryniau cyfagos o amgylch Dyffryn Clwyd.

….


….

Dewi-Prys Thomas Prize

The Dewi-Prys Thomas Trust was established in 1990 to celebrate the life of Dewi-Prys Thomas (1916-85), a charismatic teacher and advocate for Wales and the built environment. They award a prestigious, triennial award for good design in the built environment in Wales, and are open to collaborations with other organisations to promote the quality of life, identity and regeneration of Wales.

The third Dewi-Prys Thomas Prize was awarded in 2009. Forty-seven nominations were received with the following being announced as part of the proceedings of the annual conference of the Royal Society of Architects in Wales (RSAW) in Cardiff on 21 November 2009:

Winner: Ruthin Craft Centre, Ruthin, Denbighshire

Architect: Sergison Bates architects www.sergisonbates.co.uk
Prize: silver medal and prize certificate

www.dewi-prysthomas.org

..

Gwobr Dewi-Prys Thomas

Sefydlwyd Ymddiriedolaeth Dewi-Prys Thomas ym 1990 i ddathlu bywyd Dewi-Prys Thomas (1916-1985), athro carismatig ac eiriolwr dros Gymru a’r amgylchedd adeiledig. Dyfernir gwobr bwysig teir mlwyddol ar gyfer dylunio da yn yr amgylchedd adeiledig yng Nghymru, ac maent yn agored i gydweithio gyda sefydliadau eraill i hyrwyddo ansawdd bywyd, hunaniaeth ac adfywiad yng Nghymru.

Dyfarnwyd trydydd gwobr Dewi-Prys Thomas yn 2009. Derbyniwyd pedwar deg saith o enwebiadau gyda’r canlynol yn cael ei gyhoeddi fel rhan o’r gweithgareddau yng nghynhadledd flynyddol Cymdeithas Frenhinol y Penseiri yng Nghymru (RSAW) yng Nghaerdydd ar 21 Tachwedd 2009:

Enillydd: Canolfan Grefft Rhuthun, Rhuthun, Sir Ddinbych.
Pensaer: Penseiri Sergison Bates www.sergisonbates.co.uk
Gwobr: medal arian a thystysgrif gwobrwyol.

www.dewi-prysthomas.org

….


….

History / Grand Opening

The new Ruthin Craft Centre was opened on Friday 25th July 2008 by acclaimed Welsh actress, Siân Phillips, before a host of well-known figures from the arts world and Welsh culture. A spectacular one-man show, ‘An Artistic Adventure’ by Andrew Logan, the famous sculptor, jeweller and organiser of the Alternative Miss World contest, was unveiled at the same time.

..

Agoriad Mawreddog

Agorwyd Canolfan Grefft Rhuthun ar ei newydd wedd ar yr 28ain o Orffennaf 2008 gan yr actores Gymreig nodedig Siân Phillips, gerbron cynulleidfa fawr o bwysigion o’r byd celf yn ogystal â ffigurau amlwg yn niwylliant Cymru. Cyflwynwyd arddangosfa unigol drawiadol ‘Antur Artistig’ gan Andrew Logan, y cerflunydd a’r gemydd enwog a threfnydd yr ornest ‘Alternative Miss World’.

….

….

The event marked the culmination of a four-year project to create a contemporary applied arts venue with exhibition, studio and educational facilities that can more than hold its own against similar institutions across Europe.

Since it was founded in the early 1980s, Ruthin Craft Centre has established an impressive reputation as perhaps Britain’s foremost venue for the display and creation of contemporary craft. In 2005 it was decided to replace its old premises with a purpose built building containing three large display galleries, a retail gallery, six artist studios, an education suite and café. An alluring design by architects Sergison Bates won the commission and the £4.4 million project, made possible by a major capital lottery grant from the Arts Council of Wales, has now been delivered as planned.

“The new Ruthin Craft Centre opens this summer and” says Grant Gibson (Editor of Crafts Magazine who had a sneak preview) “its visitors are in for a bit of a treat.” “ in many respects this is a very brave building, set against the Clwydian Hills (Sergison Bates) have come up with an unashamedly contemporary building that never seeks to overwhelm its context and contains a genuine sense of warmth, Craft has a new home of which it can be proud.” “The new Ruthin isn’t a glass box, it’s something much, much smarter.”

..

Roedd y digwyddiad yn nodi penllanw ymdrechion pedair mlynedd i greu lleoliad i’r celfyddydau cymhwysol gan gynnwys cyfleusterau arddangosfa, stiwdio ac addysgol, sydd yn cymharu’n ffafriol gyda sefydliadau cyffelyb ar draws Ewrop.

Ers pan sefydlwyd Canolfan Grefft Rhuthun ddechrau’r 1980au y mae wedi ennill iddi’i hun yr enw o fod y lleoliad pwysicaf ar gyfer arddangos a chreu crefftau cymhwysol. Yn 2005 penderfynwyd trawsnewid yr hen adeiladau yn ganolfan bwrpasol yn cynnwys dwy oriel fawr, oriel werthu, chwe stiwdio ar gyfer artistiaid, ystafelloedd addysgol a bwyty. O ganlyniad i’w cynllun dengar enillwyd y cytundeb gan y penseiri Sergison Bates ac y mae’r prosiect £4.4 miliwn gyda chymorth grant loteri sylweddol oddi wrth Gyngor Celfyddydau Cymru wedi ei gwblhau yn ôl yr addewid.

“Y mae’r Ganolfan Grefft newydd yn agor yn Rhuthun yn ystod yr haf” meddai Grant Gibson (golygydd y Crafts Magazine a gafodd gip cynnar ar y fangre) “ac y mae’r ymwelwyr yn mynd i gael gwledd, y mae’r adeilad hwn sydd yn swatio yng nghesail Moelydd Clwyd yn un dewr ar lawer cyfrif, ac y mae Sergison Bates wedi cael y weledigaeth o gynllunio adeilad cyfoes digyfaddawd sydd yn addas i’r lleoliad ac iddo awyrgylch gynnes groesawgar. Y mae gan y byd celf a chrefft gartref newydd a hawdd ymfalchio ynddo. Nid blwch gwydr yw Rhuthun newydd ond rhywbeth llawer mwy caboledig.”

….